Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3
Dyddiad: Dydd Mercher, 27 Medi 2017
Amser:
08.54 -
11.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4397
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC David Melding AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Carl Sargeant AC Neil Hemington, Llywodraeth Cymru Martin Swain, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb yn ystod eitemau 1-5 gan Janet Finch-Saunders AC. Roedd David Melding AC yn bresennol fel dirprwy ar gyfer Janet yn ystod eitemau 1-5.
1.3 Datganodd John Griffiths AC fuddiant perthnasol.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
· Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
· Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru
· Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai, Llywodraeth Cymru
· Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio, Llywodraeth Cymru
2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a'i swyddogion i ddarparu:
· ffigurau ar gyfer adeiladau a gofrestrwyd ymlaen llaw cyn i'r rheoliadau adeiladu newydd ddod i rym yn 2016, ac felly na fyddai chwistrellwyr wedi eu gosod ynddynt er iddynt gael eu hadeiladu ar ôl 2016;
· gwybodaeth am yr amser hiraf a ganiateir rhwng dyddiad gwneud cais am gymeradwyaeth o dan y rheoliadau adeiladu, a'r dyddiad y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau;
· gwybodaeth am ba bryd y bydd y canllawiau diwygiedig ar gael ar ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau a adeiladwyd yn bwrpasol;
· eglurhad ynglŷn â'r ddyletswydd statudol ar ddatblygwyr adeiladu i ymgynghori ag awdurdodau tân ac achub ar ôl cyflwyno cynlluniau adeiladu gyntaf.
3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd.
3.2.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd.
3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd.
3.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd.
3.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.
3.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.
3.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.
3.8.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.
3.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Llywydd ynghylch Gweithredu Deddf Cymru 2017.
3.10.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
3.11.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifenyddion y Cabinet ar nifer o faterion a godwyd.
6.1 Trafododd y Pwyllgor a chytunodd ar ei ddull o graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.